Croeso i Parc Coffa ac Amlosgfa Sir Ddinbych

Rydym yn gwmni y mae gan ein cyfarwyddwyr a phrif randdeiliaid dros 90 mlynedd o brofiad cyfunol yn y diwydiant gofal profedigaeth. Ein bwriad penodol yw cynnig y safonau gwasanaeth, cyfleuster a chynnyrch gorau posibl ar bob adeg. Rydym yn ymroddedig i ddarparu ystod eang o ddewis a phris, gan ganiatáu i deulu mewn profedigaeth ddewis y gwasanaeth neu gynnyrch mwyaf addas iddyn nhw am bris sydd o fewn eu cyrraedd.

Gall y cyhoedd brynu ein cofebion yn uniongyrchol i’w defnyddio mewn amlosgfeydd, mynwentydd neu fynwentydd eglwys eraill. Ewch i’r dudalen coffau neu cysylltwch â ni am bamffled a rhestr brisiau.

Yng ngwanwyn 2016, fe agorom Barc Coffa ac Amlosgfa Sir Ddinbych a fydd yn cynnig cyfleusterau amlosgi a Gardd Goffa ar gyfer llwch amlosgedig mewn lleoliad wedi ei dirweddu’n hardd, gyda gerddi wedi eu trin a golygfeydd llonydd o gefn gwlad.

Mae Parc Coffa ac Amlosgfa Sir Ddinbych yn un o nifer o safleoedd a weithredir gan Memoria Limited a gallwch weld eu gwefan yma: www.memoria.org.uk.

Ein Datganiad Cenhadaeth

“Mae gan Memoria – Denbighshire Memorial Park gennad i ddarparu safonau rhagorol o wasanaeth a chyfleusterau i’r teuluoedd mewn profedigaeth sy’n defnyddio ei amlosgfeydd a gerddi coffa. Mae hyn nid yn unig am ei bod yn fasnachol synhwyrol i wneud hyn, ond hefyd am ei fod yn weithred hanfodol o gwrteisi tuag at bobl sydd newydd golli aelod annwyl o’r teulu neu gyfaill cu. Mae profedigaeth yn ganlyniad anochel i’r profiad o garu a chael ein caru. Mae colli rhywun annwyl y profiad mwyaf gofidiol, anhapus a thrawmatig y byddwn yn wynebu mewn bywyd. Rydym ni yn Parc Coffa ac Amlosgfa Sir Ddinbych yn sylweddoli na allwn leddfu’r fath boen, ond fe wyddom fod gennym gyfrifoldeb a dyletswydd i fod mor effeithiol, caredig, parchus a chwrtais â phosibl i’n cleientiaid yn eu cyfnod o alar, ac wedi hynny pan fyddant yn dychwelyd i gofio eu perthnasau neu ffrindiau cu. Felly, ein nod yw darparu cyfleusterau perffaith lân a thaclus mewn lleoliad tawel a hardd, gyda phobl sy’n wirioneddol ymroddedig i’n cennad yno i’w gwasanaethu, ac sy’n ymfalchïo yn eu gwaith o ganlyniad.”