Parc Coffa ac Amlosgfa Sir Ddinbych

Gwasanaethau a Chyfleusterau

Gwasanaethau

Mae Parc Coffa ac Amlosgfa Sir Ddinbych yn cynnig:

  • Amserau gwasanaeth 1 awr (yn cynnwys cyrraedd a gadael)
  • Capel – gyda lle i 100 o seddi
  • Cyfleusterau clerigol penodol
  • Claddu traddodiadol
  • Claddu naturiol
  • Gardd goffa ar gyfer llwch amlosgedig
  • Maes parcio digonol a threfnus gyda mynediad diogel
  • Mynediad i’r anabl a dolen sain
  • Deunyddiau cyfforddus
  • Dewis o system gerddoriaeth uwch neu organ fyw
  • Gwe gamera gyda chyfleusterau ffrydio byw ar gyfer cyfeillion a theulu nad ydynt yn gallu mynychu’r gwasanaeth
  • Sgriniau teledu plasma ar gyfer cysegriad llun/moliant

Sylwer nad oes cyfyngiadau ar ac nad oes tâl ychwanegol ar gyfer amlosgiadau o’r tu allan i’r ardal.
Ni Chaniateir Cŵn

Cymerwch Taith o’n Cyfleusterau

Amserau Gwasanaeth

Roedd Memoria Ltd yn arwain y blaen yn 2013 wrth gynnig y cyfnod amser un awr, wedi sylweddoli yn ogystal â bod angen cyfleusterau arbennig, roedd angen preifatrwydd a theimlad o beidio cael eich rhuthro ar gludfelt trasig. Felly, mae holl Barciau Coffa Memoria yn cynnig cyfnod o un awr er mwyn i’r teuluoedd mewn galar gael preifatrwydd o ddefnyddio’r cyfleuster eu hunain. Mae hyn yn caniatáu amser gwasanaeth o ddeugain munud, cyfnod o ddeg munud i ddiolch i ffrindiau a pherthnasau pell am fynychu a deg munud arall i adael y safle. Rydym yn credu bod hyn yn allweddol yn y broses o helpu teulu i greu gwasanaeth a fydd yn ddathliad llawn o fywyd eu hanwylyn.

O ganlyniad, gofynnwn i alarwyr sy’n mynychu gwasanaethau dilynol i barchu hyn a pheidio cyrraedd y safle tan ddeg munud cyn eu cyfnod amser penodedig. I’r diben hwn, rydym yn fwriadol yn peidio darparu ystafelloedd aros ar y safle. Fodd bynnag, mae pob un o’n safleoedd yn darparu manylion ar eu gwefannau o gaffis neu fwytai gerllaw ble gellir cael lluniaeth a ble mae cyfleusterau toiledau ar gael. Mae hyn yn caniatáu i’r teulu sy’n mynychu’r gwasanaeth presennol i allu gadael y capel mewn preifatrwydd, yn hytrach na wynebu torf o wynebau anghyfarwydd fel sy’n aml yn digwydd mewn amlosgfeydd eraill. Cliciwch yma am wybodaeth am gaffis neu fwytai lleol.

Cyfleusterau

Mae natur integredig darpariaeth y parc coffa yn galluogi Parc Coffa Sir Ddinbych i ddarparu gwell seilwaith nag y byddai’n fforddiadwy mewn mynwent yn unig, gan gynnwys:

  • Mynediad diogel i ac o’r briffordd
  • Capel cynnes a chyfforddus
  • Maes parcio helaeth
  • Cyfleusterau toiledau

Ceisiadau Cerddoriaeth

We use the Obitus media system to provide a wide-ranging choice of popular and classical songs and music. Many of these choices are already held in our music library at the Crematorium, and you can search and listen to 30-second samples of all this music on the Obitus website.

  1. Select “Music Library” or “Hymn Library”
  2. Enter the password “Memoria”
  3. Enter the title and/or and select “Search”

If we do not already have your preferred music, please contact your funeral director who can place a special order with Obitus for you.

Ewch i wefan Obitus

Gwybodaeth Ychwanegol

We can also provide a recording of the complete service on audio CD, or with visuals on a DVD, Blu-ray or USB memory stick.

Gallwn hefyd ddarparu gwe-gast byw o’r gwasanaeth sy’n galluogi’r rhai nad ydynt yn gallu mynychu’n bersonol oherwydd pellter neu salwch i weld y gwasanaeth ar y rhyngrwyd.