Parc Coffa ac Amlosgfa Sir Ddinbych

Amdanom Parc Coffa ac Amlosgfa Sir Ddinbych

Mae Parc Coffa ac Amlosgfa Sir Ddinbych wedi ei leoli ar Ffordd Glascoed i’r gorllewin o Barc Busnes Llanelwy, yn agos at gyffordd 26 traffordd yr A55, ac ychydig i’r gorllewin o ddinas gadeirlan hanesyddol Llanelwy.

Mae’r Ardd Goffa yn cynnig cofebion wedi eu llunio’n gyfan gwbl o garreg Brydeinig, a fydd yn gweddu’n dda i ardal wledig donnog gyfagos Sir Ddinbych, gyda’r bryniau Cymreig uwchben Groesffordd Marli yn edrych drostynt.

Mae lle yn y capel i 100 o bobl, ac mae posibiliad i 200 o bobl sefyll ac eistedd trwy gynnwys y gofod yn y cyntedd a gellir darparu ar gyfer gwasanaethau ar gyfer dros 400 o bobl trwy ddarlledu’r gwasanaeth dan y porte-cochere. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer amlosgiad, claddedigaeth neu wasanaethau coffa. Mae parcio ar gyfer 68 o gerbydau hefyd ar gael, gyda pharcio gorlif ar gyfer oddeutu 38 arall.

Yn y capel mae yna ddolen sain i gynorthwyo’r rhai sydd ag anawsterau clywed; system gerddoriaeth Obitus, sy’n lawrlwytho cerddoriaeth o unrhyw le yn y byd trwy’r rhyngrwyd; organ i gyfeilio ar gyfer y rhai sydd eisiau canu emynau; system anerchiadau cyhoeddus; dau deledu sgrin plasma ar gyfer areithiau angladdol a recordiwyd o flaen llaw neu gyflwyniadau ffotograffig mud yn ystod y gwasanaeth a chyfleusterau gwe gamera er mwyn i’r rhai nad ydynt yn gallu mynychu’r gwasanaeth wylio dros y we.

Bwriedir i’r defnydd cynnil o liw fod yn sobr a thawel yn hytrach na digalon ac angladdol. Mae golygfeydd o’r ffenestr lydan enfawr yn y capel yn llonydd, gwledig a phriodol.

Gall gwasanaeth angladdol fod yn ymroddiad crefyddol i ba bynnag ffydd. Neu beidio. Naill ffordd neu’r llall, ar gyfer y teulu a ffrindiau mewn galar, mae’n brofiad trist iawn a hynod bersonol. Felly, mae’n allweddol eu bod yn teimlo ar y diwrnod bod ganddynt y capel iddynt eu hunain ac nad ydynt yn rhan o broses cludfelt trasig.

Mae amserau gwasanaeth ar gael am ysbeidiau o 1 awr a gellir eu hymestyn ar gais. Gellir hefyd trefnu gwasanaethau ar benwythnosau.